Blodau'r flwyddyn yw f'annwylyd
Ebrill, Mai, Mehefin hefyd
Llewyrch haul yn tywynnu ar gysgod
A gwenithen y genethod
Main a chymwys fel y fedwen
Bert ei llun fel hardd feillionen
Teg ei gwawr fel bore hafddydd
Hon yw nôd holl glod y gwledydd
Hardd yw gwên y haul yn codi
Gyda'i chofleid o oleuni
Hardd y nos yw gwenau'r lleuad
Harddach ydyw grudd fy nghariad
Diffodd tân a wna dwr croyw
Diffodd dyn wna angau chwerw
Y mae ffordd i ddiffodd gwenyn
Diffodd cariad ni wna un dyn
Đăng nhập hoặc đăng ký để bình luận
Đăng nhập
Đăng ký